SENEDD CYMRU : WELSH PARLIAMENT

GRŴP TRAWSBLEIDIOL AR GWRW A’R DAFARN – CROSS PARTY GROUP ON BEER AND THE PUB

 

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2023 : Annual General Meeting 2023

9 Chwefror 2023 : 9 February 2023

 

Cynhaliwyd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol drwy gyfrwng Zoom.

Yr Aelodau a oedd yn bresennol:

Jack Sargeant (Cadeirydd), Mike Hedges, Mark Isherwood.

 

Ymddiheuriadau gan yr Aelodau:

Alun Davies, Llyr Gruffydd, Rhys ab Owen, Joel James, Sam Rowlands, Sam Kurtz, Peredur Owen Griffiths, Carolyn Thomas.

 

Yn bresennol:

John Pockett (Ysgrifennydd y Grŵp Trawsbleidiol yn ystod y Bumed Senedd / Cynulliad).

 

Croesawodd Jack Sargeant bawb i'r cyfarfod a chadarnhaodd fod hysbysiad ynghylch y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol wedi'i ddosbarthu’n briodol.

 

Ethol Cadeirydd:

Jack Sargeant, a gafodd ei gynnig gan Mark Isherwood a’i eilio gan Mike Hedges, oedd yr unig berson i gael ei enwebu, a chafodd ei gadarnhau yn briodol.

 

Ethol Is-gadeiryddion:

Cynigiodd y Cadeirydd eto y dylid rhannu rôl yr Is-gadeirydd rhwng Aelodau o bob grŵp plaid er mwyn sicrhau cyfranogiad trawsbleidiol llawn. Cafodd y cynnig hwn ei dderbyn, a nodwyd y byddai'r Aelodau'n cael eu canfasio ynghylch eu diddordeb. Derbyniwyd y cynllun hwn.

 

Ethol Ysgrifennydd:

John Pockett, a gafodd ei gynnig gan Mark Isherwood a’i eilio gan Mike Hedges, oedd yr unig berson i gael ei enwebu, a chafodd ei ethol yn briodol.

 

Mae cofnodion y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol diwethaf wedi bod ar gael ar dudalen we’r Grŵp Trawsbleidiol ers mis Ionawr 2022.

 

Soniodd y Cadeirydd am lwyddiant y digwyddiad blasu cwrw a gynhaliwyd ym mis Hydref. Roedd lefel dda iawn o ddiddordeb ymhlith yr Aelodau ac ymhlith bragwyr o wahanol rannau o Gymru. Cafwyd anerchiad gan Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi, yn ystod y digwyddiad. Mae cynlluniau pellach y Grŵp yn cynnwys cynllun i ymweld â bragdy ac i gynnal swper diwedd tymor, o bosibl. Bydd y grŵp yn cael gwybodaeth lawn am y cynlluniau hyn.

 

Bydd y berthynas waith agos gyda’r Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar Gwrw a’r Dafarn yn San Steffan yn parhau o dan yr ysgrifennydd newydd, Rita King, sydd wedi cymryd yr awenau oddi wrth Paul Hegarty, sydd wedi ymddeol.

 

Unrhyw fater arall:

Codwyd y mesur arfaethedig ynghylch cynlluniau dychwelyd ernes gan Barry Watts o SIBA. Disgwylir i drefn hon gael ei chyflwyno yn yr Alban ym mis Awst eleni, a disgwylir i Gymru ddilyn yr un llwybr yn ystod 2025. Cyfeiriodd Barry at y problemau a oedd wedi dod i’r amlwg yn yr Alban. Yn y drafodaeth ddilynol, penderfynwyd y dylid cael cyfarfod arbennig o’r Grŵp Trawsbleidiol i ymdrin â chynlluniau dychwelyd ernes yn unig. Bydd y Cadeirydd a'r Ysgrifennydd yn trafod y mater ac yn cynnig dyddiadau.

 

Bydd y drafodaeth ar gynlluniau dychwelyd ernes yn cael ei chynnal yng nghyfarfod nesaf y Grŵp Trawsbleidiol.

 

Daeth y trafodion i ben am 12.40.

 

JACK SARGEANT AS : MS                                                                        JOHN POCKETT

Cadeirydd : Chair                                                                                  Ysgrifennydd : Secretary